Blas o Langeitho

Daniel Rowland (1713–90)

Yn fab i berson plwyfi Llangeitho a Nantcwnlle, ganed Daniel Rowland (1713–90) ym Mhantybeudy, Bwlch-llan. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Henffordd, yn ôl pob sôn. Fe’i hurddwyd yn ddiacon yn 1734 ac yn offeiriad yn 1735. Gwasanaethodd y plwyfi yma fel curad cyn dod o dan ddylanwad Griffith Jones, Llanddowror. Dechreuodd bregethu a chychwyn teithio o gwmpas Cymru. Ymunodd â Howel Harris fel un o arweinyddion y mudiad hyrwyddo’r deffroad Methodistaidd yng Nghymru. Ond yn 1752 bu rhwyg rhwng y ddau. Am gyfnod maith gwnaeth Rowland Llangeitho yn Feca’r Methodistiaid a thyrrai miloedd o bobl yno o bob rhan o Gymru bob Sul i wrando arno’n pregethu. Cyhoeddwyd ei bregethau mewn llyfrynnau a hefyd ei emynau.

 (c) Cyngor Llaneitho Council

Cyhoeddiadau (detholiad)

Traethawd am Farw i’r Ddeddf, a Byw i Dduw (1743) Rhai Hymnau Duwiol (1744)
Hymnau Duwiol Yw Canu Mewn Cymdeithas Crefyddol (1744)
Deuddeg o Bregethau (1814)
'Halsing o waith Daniel Rowland, 1737', Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 33 (1948), t.15


Capel Gwynfil

Yn dilyn diarddeliad Daniel Rowland o’i guradiaeth yn 1763 buwyd yn cynnal yr ymgyrch Fethodistaidd mewn tai cyffredin nad oeddent wedi eu cysegru i’r pwrpas, ac yn weddol gyson yn Sgubor Meidrym, adeilad syml gyda tho gwellt. Roedd Daniel Rowland yn briod ag Eleanor, merch Caerllugest, teulu cyfforddus eu hamgylchiadau yn ôl safonau’r oes; rhoes ei brawd, Peter Davies, a oedd yn briod â merch Y Glyn, ddarn o dir i bwrpas codi capel arno, safle ple mae’r gofgolofn yn awr. Cafodd yr enw ‘Yr Eglwys Newydd’, ym mhlwyf Gwynfil, tros yr afon Aeron o blwyf Ceitho. Ychwanegwyd ato yn y man gan alw un rhan yn Y Ty nesaf i’r Pulpud a’r rhan arall, Ty Nesaf i’r Ffordd.
Yn 1813–15 codwyd adeilad mwy o faint, gydag ond tua thrideg o aelodau, hyn wedi ordeinio gweinidogion cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn 1811. Roedd pedwar drws iddo ac fe’u henwyd yn: Drws y Geifr – gan mai gwrthgilwyr ai drwyddo; Drws y Defaid – trwy hwn yr ai’r dychweledigion; Drws Coch – dyna’i liw, a Drws yr Allor ger lle gweinyddid y cymundeb.

Adeiladwyd y capel presennol yn 1861, cadwyd ynddo ddelwedd y drws tu nôl i’r pulpud o ddyddiau Rowland. Gall eistedd tua 650 o bobl. Mae wedi ei restri gan CADW, yn Gradd 2*.

Y Parch. Stephen Morgan

 (c) Cyngor Llaneitho Council

Cofgolofn Daniel Rowland

Bu cyfarfod dadorchuddio cofgolofn Daniel Rowland ar 7 Medi 1883 ac roedd dwy i dair mil o bobol yn bresennol. Bu ymgais ugain mlynedd yn gynt i’w goffáu yn y modd hwn ond methwyd cael digon o gefnogaeth ar y pryd.
Trefnwyd casgliad cenedlaethol a chodwyd £600 a hyrwyddwyd gan y Parchg. Thomas Levi, Aberystwyth. Y cerflunydd oedd Edward Griffiths o Gaerleon, ac fe gostiodd £800.
Dafydd Jones, Dolau Bach, ugain mlynedd cyn hynny awgrymodd y geiriau, y rhai a gofiai ef i Rowland eu dweud mewn pregeth rhyw dro. Mae ar restr CADW, yn Gradd 2.

'O Nefoedd, Nefoedd, Nefoedd, buasai dy gonglau yn ddigon gwag oni bai fod Sion yn magu plant i ti ar y ddaear.'

Y Parch. Stephen Morgan

Eglwys Sant Ceitho

Mae bedd Daniel Rowland yn adeilad yr eglwys.

John Humphreys Davies (1871–1926)

Ganed John Humphreys Davies yn Cwrtmawr. Cofier amdano fel prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac am ei gasgliad amhrisiadwy o ddogfennau Cymraeg o’r Oesoedd Canol. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Lincoln, Rhydychen. Cafodd ei alw’n fargyfreithiwr i Lincoln’s Inn ac o oedran ifanc bu’n ymwneud â’r byd cyhoeddus. Fe’i hetholwyd yn henadur Cyngor Sir Aberteifi yn 24 oed, er nad oedd yn aelod etholedig o’r awdurdod. Yn Rhydychen roedd yn gyfeillgar gydag O M Edwards, ac ef a daniodd ei ddiddordeb yn llenyddiaeth Cymru. Roedd yn aelod o’r mudiad a greodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a rhoddwyd ei gasgliad o 1,549 o gyfrolau o ddogfennau Cymraeg o’r Oesoedd Canol i’r llyfrgell. Yn 1905 fe’i penodwyd yn gofrestrydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a bu’n brifathro’r coleg o 1919 tan ei farwolaeth.

Dr Martyn Lloyd-Jones

 (c) Cyngor Cymuned Llangeitho

Cafodd Dr David Martyn Lloyd-Jones (1899–1981) ei eni yng Nghaerdydd, ond symudodd ei deulu i Langeitho yn 1904 a byw yno am ddeng mlynedd. Cadwai ei dad siop yr Albion yn y pentref. Mynychodd yr ysgol yn lleol ac yn Ysgol Sir Tregaron. Cofier amdano fel pregethwr a meddyg, ac yr oedd yn ddylanwadol iawn ar asgell ddiwygiedig mudiad efengylaidd Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Daeth yr alwad i fod yn bregethwr yn 1927 a dychwelodd i Gymru gan weinyddu ger Port Talbot. Yn ddiweddarach bu’n weinidog Capel Westminster yn Llundain am bron i 30 mlynedd. Aeth ei frawd Vincent ymlaen i fod yn farnwr yr Uchel Lys.


Dr Evan David Jones CBE PhD FSA

Ganed Evan David Jones (1903–87) yn Y Wenallt. Rhwng 1958 a 1969 roedd yn llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe’i haddysgwyd yn ysgol y pentref ac yna bu’n gweithio gartref ar y fferm yn bugeilio’r defaid. Pan yn 16 oed fe’i perswadiwyd gan ei fodryb i fynychu Ysgol Ramadeg Tregaron a lletya gyda hi yn ystod yr wythnos. Ymysg ei gyd-ddisgyblion oedd rhai o gymwynaswyr disgleiriaf Cymru, gan gynnwys J Kitchener Davies o Lwynpiod, gerllaw. Gweithiodd fel archifydd a cheidwad yr Adran Lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyn ei benodi yn llyfrgellydd ac olynu Thomas Parry yn y swydd. Roedd yn olygydd gweithiau’r bardd pwysig o’r bymthegfed ganrif, Lewys Glyn Cothi, a chyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith y bardd yn 1953. Yn ogystal, cyhoeddodd Victorian and Edwardian Wales from Old Photographs (1981) gan fod tynnu lluniau yn un o’i ddiddordebau. Treuliodd ei amser hamdden hefyd ar nifer o bwyllgorau, megis rhai’r brifysgol yn Aberystwyth, Urdd Gobaith Cymru, Undeb Cymru Fydd, y Cyngor Llyfrau, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Emynau Cymru, ayyb. Cydnabuwyd ei gyfraniad mawr i fywyd Cymru gan y frenhines, Prifysgol Cymru, a llu o gymdeithasau dysgedig.

Brodyr Harries Williams, Dolau Aeron

Cafodd teulu o dri brawd barddol ei magu yn Nolau Aeron, Llangeitho. Bedwyn, sef enw barddonol Tom Harries Williams (g. 1888) a dreuliodd ei oes yn offeiriad gan wasanaethu fel ficer Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin. Ceir enghreifftiau o’i waith barddol yn Cerddi Ysgol Llanycrwys (1934).

Caeron: sef Isaac Harries Williams (1876–1935)]Er iddo dreulio ychydig o’i flynyddoedd cynnar ym myd masnach yn Llundain, hiraethai am gael gwasanaethu yn yr Eglwys. Derbyniodd ficeriaeth Llanrhystud yn 1930. Pregethodd ar hyd a lled Cymru ac yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl yn Llundain ar un achlysur. Cyhoeddodd sawl cerdd ym mhapur eglwysig Y Llan.

Gwilym Aeron: sef William Joseph Harries Williams (g. 1880). Fel ei frawd Isaac, aeth i Lundain i ennill bywoliaeth, ond yn wahanol i’w frawd, ni ddychwelodd i Gymru. Arhosodd yn Llundain a sefydlodd fusnes laeth llewyrchus a siop. Cyhoeddwyd ei gerddi yn Cerddi Gwilym Aeron yn 1936.

Parc Rhydderch

Bu Parc Rhydderch yn gartref i Rhydderch ap Ieuan (m.1400), y cysylltir ei enw â Llyfr Gwyn Rhydderch.










Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration