Blas o Lwynpiod

Capel Llwynpiod

 (c) Cyngor Llaneitho Council

Saif capel Llwynpiod ar ochr ffordd Rufeinig Sarn Helen (B4578) rhwng Llanio a Thyncelyn. Mae gan y capel 20 o aelodau, yn cynnwys pedwar blaenor. Mae’r eglwys heb fugail ar hyn o bryd wedi ymddeoliad y Parch. Roger Ellis Humphreys yn 2012. Mae gwreiddiau’r capel yn dyddio’n ôl tua 350 o flynyddoedd i fferm gyfagos o’r enw Llwynrhys. Byddai cynulleidfa o anghydffurfwyr yn cyfarfod yno’n rheolaidd ar adeg pan nad oedd ymneilltuaeth grefyddol yn cael ei goddef. Erbyn diwedd yr 17eg ganrif, roedd Llwynrhys yn un o grŵp eglwysi Presbyteraidd Cilgwyn. Daeth Phylip Pugh (1679–1760) yn arweinydd eglwysi Cilgwyn ac yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol anghydffurfiaeth yn y 18fed ganrif. Yn 1753 talodd am adeiladu capel newydd yn Llwynpiod, yn lle’r hen fan cyfarfod yn Llwynrhys. Yn 1762 penodwyd y Parch. Thomas Grey (1733–1810) yn weinidog ar gapeli Llwynpiod ac Abermeurig. Roedd yn gyfaill agos i’r diwygiwr Methodistaidd Daniel Rowland, Llangeitho. Adeiladwyd yr adeilad presennol yn 1803 ac fe ddathlwyd 200 mlynedd hynny ym mis Hydref 2003.

 (c) Cyngor Llaneitho Council


Gwelir dwy gofeb ar y mur. Un i James Kitchener Davies (1902–52) a anwyd yn Y Llain – cenedlaetholwr a Christion a ddaeth yn ffigwr amlwg wedi iddo symud i fyw yn Y Rhondda, cafodd ddylanwad mawr ar addysg Gymraeg yn y cwm. Os am ddarlun o’i febyd cynnar darllener ei ddrama fydryddol, Meini Gwagedd.

Cofeb i Mari James (1918–2005) yw’r llall. Blaenores, arweinydd a symbylydd myrdd o weithgareddau yn Llwynpiod.

Yn ddiweddar, gosodwyd bwrdd arddangos ar fur allanol y capel yn nodi peth o hanes Taith y Cilgwyn fel rhan o deithiau ffydd Ceredigion.

Vaughan Evans
Cyswllt:

Luniau: Capel Llwynpiod: Vaughan Evans
Plac ar y mur: Elin Morse

Eglwys Llanbadarn Odwyn

Nid oes dyddiad gennym pryd cychwynnodd eglwys yma – mae sôn bod lle addoli yma cyn oes Crist. Yn ôl y lleoliad mae’n fan delfrydol i gwrdd, wrth edrych lawr Afon Aeron, a nôl dros Afon Teifi.

Y sôn cyntaf sydd gennym yw fod Gwaethfod, un o deulu Maethy o Gastell Odwyn, wedi claddu ym morth ffynnon ger yr eglwys yn 1038.

Mae’n debyg fod yr Eglwys yn un o eglwysi anghysbell oedd yn perthyn i’r fynachlog yn Ystrad Fflur.

Mae’r eglwys wedi ei chodi yn null y Normaniaid ac yn dal yn hollol diaddurn.
Bu yn rhan o Goleg Eglwysig Llanddewibrefi tan 1291. Bu gwneud asesiad o’r trethu trwy cytundeb â phenmynach Ystrad Fflur. Roedd cyflwr eglwysi Ceredigion yn wael am sawl canrif, penaethiaid, tywysogion a brenhinoedd yn ymladd am diroedd, ac arian y degwm oedd yn talu am hyn.

Mae hanes am Harri VIII yn anghytuno â’r Eglwys Babyddol ac yn dinistro’r abaty yn Ystrad Fflur, ac yn gwneud ei hun yn Uchelydd Eglwys Lloegr, swydd mae pob pennaeth y goron yn dal hyd heddiw.

Mae gennym un trysor yr ydym yn defnyddio’n gyson yma, sef Cwpan Cymun o 1547, pryd oedd Edward VI yn frenin. Mae’n debyg fod yna rhyw ddeg ar ôl yn y sir. Trwy Edward hefyd cafwyd yr hawl i addoli yn Gymraeg, a cyhoeddwyd ein Llyfr Gweddi Cyffredin.

Cafodd Cristionogaeth ysgytwad pan cafodd Martin Luther ddiwygiad yn Ewrop yn y bymthegfed ganrif. Os dechreuodd yn Ewrop, yn bendant daeth i’n ardal ni! Fe glywsom am gyfarfodydd dirgel, a cuddio olion crefyddol – a llawer yn ein ardal, fel Capten John Jones yn cael hawl i gael cyfarfodydd yn Llwynrhys, y Crynwyr yn Llanddewibrefi, Philips Pugh yn ei ffermdy yn Llwynpiod a Daniel Rowlands.

Caewyd Eglwys Llanbadarn Odwyn sawl gwaith am rhesymau gwahanol, diffyg cefnogaeth, prinder arian, a phrinder offeiriad. Gan fod yr eglwys mewn man anghysbell nid oedd yma oedfaon mawr. Gweddi a glywyd yn yr eglwys ar ddechrau’r ganrif diwetha oedd, 'O Arglwydd Dduw bendithia ni’n tri, Siani Bronpadarn, fi a’r ci2.

 (c) Cyngor Llaneitho Council


Mae sôn fod Esgob Clagget wedi nodi anhawster y Parch. John Rowlands i gadw ei deulu ar arian prin yn 1733, roedd ganddo eglwysi Nantcwnlle, Llangeitho, Llanbadarn Odwyn a Llanddewi Brefi dan ei ofalaeth. Taith galed ar y Sul, does dim sôn sut oedd yn teithio, ond mae’n debyg mae Llanddewi Brefi oedd y gwasanaeth olaf. Nid ydyw’n anhebyg iawn i’r Parch. Dafydd Aeron Jones heddiw, Gartheli, Betws Lleucu, Llangeitho, Llanddewibrefi a Llanbadarn Odwyn. Tipyn o daith i gadw at yr amserau hyd yn oed mewn car.

Er fod y nifer o addolwyr yn fach, rydym yn cwrdd yn gyson, ac ambell i ymwelydd yn falch gweld fod drws yr eglwys ar agor.

Beti Evans
Llun: Eglwys Llanbadarn Odwyn: Elin Morse


Llwynrhys

Adfail yw ffermdy Llwynrhys erbyn hyn ar gaeau Pentrepadarn. Dywed hanes wrthym fod addoli yma tua chan mlynedd cyn y Diwygiad Methodistaidd.
Dyn o’r enw John Jones oedd yn ffermio Llwynrhys ac mae’n debyg iddo gael tröedigaeth wrth wrando ar Morgan Hywel yn pregethu, gŵr cyfoethog a drigai naill ai yn Llangybi neu yn Betws Bledrws.

Yn y flwyddyn 1672 cafwyd trwydded gyntaf i bregethu yn Llwynrhys – addoli yn y dirgel a wnaed cyn hynny.

Mae stori ddiddorol ynglŷn â’r achos yn y dyddiau cyn cael hawl i addoli yno. Daeth mab i John Jones yn gapten ym myddin Lloegr yn amser James II, ac roedd yn ddyn o safon ac awdurdod. Nid oedd ei rieni wedi clywed oddi wrtho ers peth amser ac ni wyddent yn iawn lle yr oedd. Rhyw ddiwrnod gwelsant ŵr yn marchogaeth ar geffyl glas tuag at y tŷ. Cawsant dipyn o ofn, gan iddynt gredu taw un o swyddogion y gyfraith oedd yn dod a gŵys iddynt am dorri rheolau addoli. Cnociodd ar ddrws y tŷ ac aeth y wraig i’w ateb.

Gofynnodd iddi, ‘Ai hwn yw Llwynrhys?’ Atebodd y wraig yn gadarnhaol ac yna gofynnodd eto, ‘Ai yma y mae John Jones yn byw?’ Cafodd y wraig gymaint o ofn nes iddi lewygu yn y man a’r lle. Yna daeth John Jones ei hun i’r golwg gan ymbil ar y gŵr dieithr i beidio â gwneud dim i’r hen wraig gan ei bod hi yn hollol ddiniwed. Ni allodd y gŵr dieithr ymatal ddim mwy gan ddweud, ‘O fy nhad ni wnaf un niwed iddi, fy mam yw hi,’ a rhuthrodd at ei dad a’i gofleidio.

Ffermdy Llwynrhys (c) Cyngor Llaneitho Council

Ffermdy Llwynrhys


Vaughan Evans
Llun: Vaughan Evans


Sarn Helen

Sarn Helen yw'r ffordd Rufeinig sy’n rhedeg o Gaernarfon yn y Gogledd i Gaerfyrddin yn y De. Mae rhan ohoni yn rhedeg drwy gymuned Llangeitho, heibio i Gapel Llwynpiod a Stags Head i lawr am Lanio, (B4578). Yn Llanio roedd yna Gaer Rufeinig a elwid yn Bremia a gwelir olion yno o Faddonau Rhufeinig. Gwelir hyd heddiw ddarn syth o ffordd i’r De o Gapel Llwynpiod heibio Stags Head i lawr am Lanio, sy’n nodweddiadol o heol Rufeinig. Roedd y ffordd tua 160 milltir, a’i phrif bwrpas adeg y Rhufeiniaid oedd hwyluso trafnidiaeth wrth symud milwyr o un man i’r llall. Yn ôl traddodiad cysylltir yr enw Helen ag Elen Luyddog, sef gwraig Macsen Wledig, er bod cryn ddryswch rhyngddi hi a’r Santes Helena, mam Cystennin Fawr.

Vaughan Evans

J. Kitchener Davies

Athro, bardd, dramodydd, pregethwr ac ymgyrchydd gwleidyddol ar ran Plaid Cymru oedd J. Kitchener Davies (1902–52). Fe’i maged ar dyddyn tlawd ar gyrion Cors Caron. James (Jim) Davies oedd ei enw ar ei dystysgrif geni ond fe'i gelwid yn Kitchener yn yr ysgol, gan i’w dad feddu ar fwstas tebyg i’r cadfridog enwog. Ni welai Kitchener fawr iawn o’i dad serch hynny, gan y gweithiai ym mhyllau glo’r De. Collodd Kitchener ei fam ar enedigaeth ei phedwerydd plentyn, pan yr oedd Kitchener ond yn chwech oed. O ganlyniad, gyrrwyd Kitchener, a’i frawd a chwaer i Banbury yn swydd Rhydychen i fyw gyda’u modryb am gyfnod. Yna, dychwelodd modryb arall, sef Bodo Mari o’r Rhondda, i ddwyn y plant i fyny ar Y Llain. Effeithiodd colli ei fam, ac ymhellach marwolaeth Bodo Mari yn 1929 a gyfrifodd fel ei ‘fam’, yn ddirfawr arno. Colled arall iddo oedd symud o’i gartref yn Y Llain, pan werthwyd y tyddyn ar ail briodas ei dad.

Mynychodd Kitchener Ysgol Sir Tregaron yn yr un cyfnod ag enwogion eraill y genedl megis Griffith John Williams, Ambrose Bebb, Cassie Davies ac E.D. Jones. Yna aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth ac yno daeth o dan ddylanwad T.H. Parry-Williams a T. Gwynn Jones. Ymysg ei ffrindiau oedd Idwal Jones, y digrifwr ffraeth o Lanbedr Pont Steffan. Yno, dechreuodd arbrofi â themâu ar gyfer ei gyfansoddiadau creadigol.
Yn 1926, dechreuodd ei yrfa fel athro ysgol Cymraeg ym Mlaengwynfi gan ymgartrefu yng Nghwm Rhondda. Cofleidiodd fyd y ddrama a dechreuodd greu’r ddrama dair act Cwm Glo. Glöwr yw cymeriad canolog y ddrama; dyn sy’n bwdr, yn dreisgar, yn gamblo ac yn rhegi. Bwriad Kitchener oedd dangos y llygredd moesol a oedd yn deillio o’r ffordd y dioddefai gweithwyr o ganlyniad i’r dirwasgiad yn niwydiannau’r de ar y pryd. Ymgeisiodd â Chwm Glo yng nghystadleuaeth y ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 1934, ac er i’r beirniaid gytuno fod gan Kitchener Davies ddawn bendant, tybiwyd y dylid atal y wobr gan fod y ddrama yn anaddas i’w pherfformio. Ond fe’i perfformiwyd yn llwyddiannus yn Abertawe yn ddiweddarach a thrwy dde Cymru gan gwmni drama’r Pandy.

Er yr adwaith a’r sylw yma, nid oedd pall ar chwant Kitchener i arbrofi. Un o’i orchestion mwyaf oedd y ddrama fydryddol Meini Gwagedd a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybïe, 1944. Seiliwyd y ddrama hon ar ddirywiad y gymdeithas wledig yn ardal ei febyd yn Llwynpiod. Yng nghanol brwdfrydedd y creu a’r cystadlu, bu’n ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn etholiadau cyffredinol 1945 (Dwyrain Rhondda) a 1950 a 1951 (Gorllewin Rhondda). Roedd yn darlledu, yn cynnal dosbarthiadau nos, yn ysgrifennu i’r wasg yn Gymraeg a Saesneg ac yn pregethu.
Ar ddechrau’r 1950au darganfuwyd ei fod yn dioddef o gancr y perfeddyn mawr. Ar ei wely angau yn 1952, darlledwyd ei bryddest ‘Sŵn y gwynt sy’n chwythu’ ar y BBC. Cerdd hunangofiannol ydyw ac fe’i hystyrir yn un o bryddestau gorau’r ugeinfed ganrif.

Cyhoeddiadau

Gwaith James Kitchener Davies (1980)
James Kitchener Davies: Detholiad o’i Waith (2002)
Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration