Blas o Ben-uwch

Llyn Fanod


Mae Llyn Fanod, sy’ oddeutu pedair a hanner hectar o faint, yn ardal o ddiddordeb gwyddonol cenedlaethol ac yn eiddo’n rhannol i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Mae’n llecyn delfrydol i glywed y gwcw’n canu yn y gwanwyn. Ceir arddangosfa anhygoel o lili’r dŵr melyn a gwyn ym mhen deheuol y llyn yng nghanol yr haf. Mae’n lle da i weld gwas y neidr a mursennod hefyd.

Mae safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Cors Llyn Farch a Llyn Fanod yn hynod o bwysig oherwydd y ceir yno gors a hefyd gors galchog mewn pant, cymuned o blanhigion dyfrol a chyfuniad o borfeydd corsiog a rhostiroedd. Yng nghors Llyn Farch ceir ymhlith y llystyfiant hesg a brwyn byr, plu’r gweunydd unben, grug, llus coch, llus, haenau trwchus o fwsogl a rhywogaeth o redyn sy’n brin yn lleol, sef y rhedynen gyfrdwy. Gan fod mawndiroedd wedi lleihau’n sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif yn sgil draenio eang, mae Cors Llyn Farch yn lle unigryw.

 (c) Cyngor Llaneitho Council


Mae Llyn Fanod wedi denu ymwelwyr yn gyson. Roedd yn gyrchfan nofio boblogaidd i bobl ifainc y fro ar un adeg, gyda rhai ohonynt yn cofio cario gwisg nofio i’r capel ar y Sul ac yna mynd i nofio yn y llyn ar ôl y gwasanaeth. Ond digwyddodd trychineb yn 1963 pan foddodd dau blentyn bach wrth rafftio ar y llyn.

Llun: Llyn Fanod: Eirian Jones


John Roderick Rees


Heblaw am bymtheng mlynedd, treuliodd John Roderick Rees (1920–2009) ei oes ar dyddyn Bear’s Hill, Pen-uwch. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Pen-uwch ac yna yn Ysgol Sir Tregaron cyn mynd ymlaen yn 26 oed i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio mewn adran Gymraeg o dan ddarlithwyr a beirdd cenedlaethol megis T.H. Parry-Williams a Gwenallt. Rhannodd ei yrfa rhwng amaethu ei dyddyn ym Mhen-uwch a dysgu yn yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth ac yna fel pennaeth adran Gymraeg Ysgol Uwchradd Tregaron. Rhoddodd fyny ei swydd yn 1973 i edrych ar ôl ei famfaeth Jane, a fu farw yn 1981 yn 86 oed. Bu mam John Roderick Rees farw pan yr oedd John Roderick Rees ond yn ddwy flwydd a hanner, a Jane fu’n fam iddo yn Bear’s Hill ers i’r bardd droi yn ddeg oed.

Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau fel llenor yn gyntaf ar gystadlaethau ysgrifau a thraethodau. Yna, bu’n cystadlu yn gyson ar farddoniaeth hyd at 1964, gan ennill 23 o Gadeiriau eisteddfodol mewn saith mlynedd. Wedi seibiant o gystadlu am ugain mlynedd (o ganlyniad i’w siom na wobrwywyd ei bryddest ‘Ffynhonnau’ yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964: yn ôl y beirniad T.H. Parry-Williams, dylid gwobrwyo, ond ail dda ydoedd yn ôl y ddau feirniad arall, W.J. Gruffydd ac Eirian Davies), ailddechreuodd gyfansoddi. Daeth llwyddiant mawr i’w ran yng nghanol yr 1980au. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd o’r bron: yn Llanbedr Pont Steffan yn 1984 am ei bryddest ar y testun ‘Llygaid’ a’r flwyddyn olynol yn Y Rhyl am bryddest i’r testun ‘Glannau’. Thema ‘Glannau’ oedd ei brofiadau wrth edrych ar ôl ei famfaeth Jane yn ystod blynyddoedd olaf ei afiechyd. Roedd y profiad wedi bod yn chwerw i’r ddau ohonynt. Ei neges oedd bod gormod o bobl yn anwybyddu eu cyfrifoldebau tuag at eu perthnasau oedrannus.

Fel ei dad o’i flaen, bu magu cobiau Cymraeg yn un o ddiddordebau pennaf John Roderick Rees dros y blynyddoedd. Cafodd lwyddiant mawr gyda’r cob Brenin Gwalia.

Cyhoeddiadau

Cerddi’r Ymylon (1959)
Cerddi John Roderick Rees (1984)
Cerddi Newydd 1983–1991 (1992)

Cerfluniau Pen-uwch

Yn 1993 derbyniwyd gwahoddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Ysgol Gynradd Pen-uwch ymchwilio a chofnodi mewn dull celf gweledol, hanes yr ardal, y pentref a’r gymuned gyfagos. Yn dilyn cryn drafod rhwng yr athrawon a’r plant, cytunwyd ar gynllunio a datblygu prosiect ymchwil a fyddai’n ymdrin â ac yn arddangos agweddau a digwyddiadau pwysig bywyd yr ardal a fyddai’n olrhain hanes y gymuned wledig a sut y gwnaeth y digwyddiadau hanesyddol ddylanwadu ar y Pen-uwch cyfoes.

Y bwriad oedd ennyn diddordeb y plant yn yr elfennau hynny sy’n nodweddu’r ardal. Wrth gynllunio penderfynwyd canolbwyntio ar yr agweddau megis addysg, diwylliant, crefydd, amaethyddiaeth a’r ffordd o fyw.

Mae allbwn yr ymchwilio a’r casgliadau ddaethpwyd iddynt i’w gweld yn y cerfluniau yma ar dir Brynamlwg sy’n dystiolaeth clodwiw o waith a chreadigaethau plant yr ysgol. Mae’r gwrthrychau gaiff eu portreadu megis Brenin Gwalia, y cob Cymreig adnabyddus, John Roderick Rees enillydd dwy goron yr Eisteddfod Genedlaethol, bywyd caled yr amaethwyr mynydd, olion llwybrau’r porthmyn, addysg a chrefydd, yn nodweddion sydd yn gyfarwydd iawn i’r trigolion lleol.

Cofnodi hanes Pen-uwch yw prif ffocws yr arddangosfa ond ofer yw celfyddyd os na chaiff ei chyflwyno mewn modd sydd yn sensitif, yn synhwyrus ac yn ystyrlon. Gosodwyd cerfluniau plant Pen-uwch yn dilyn llawer o drafodaethau mewn lleoliad lle mae natur yn dylanwadu ar yr hyn a welir. Mae’r awyr yn gefnlen fwriadus er sicrhau fod y cyfanwaith yn ymateb yn naturiol i wahanol ddwyster golau’r dydd. Mae newidiadau mewn lliw ac adeiladwaith natur yn gyson newid naws ac ymddangosiad y portreadau. Mae’r haul, y cymylau ac amrywiaeth y tywydd a’r golau fin nos a gyda thoriad gwawr yn rhoi perspectif a dimensiwn gwahanol ac ysgogol wrth i natur ddylanwadu ar a rheoli’r modd y gwelir y gelfyddyd.

Gosodwyd hanes a chelfyddyd yng nhyd-destun addysg gyflawn y plant. Roedd diddordeb ac ymroddiad y plant yn heintus wrth iddynt ymchwilio a darganfod torreth o dystiolaeth er bwydo i’w canfyddiadau terfynol. Nid prosiect hanes fu’r weithgaredd ond yn hytrach profiad addysgol traws-gwricwlaidd lle bu trafodaethau llafar dwys, cofnodi ysgrifenedig cyson, gwaith rhif, ymchwil daearyddol ac agweddau ar gelf yn gwau drifflith-drafflith. Bu’r plant yn rhyngweithio’n frwdfrydig wrth drafod a dod o hyd i benderfyniadau ar bob agwedd o’r hanes ond yn fwy na dim roedd y pleser a’r mwynhad amlwg ddangoswyd ganddynt yn dystiolaeth gadarn o werth y prosiect o’r cychwyn i’r diwedd.

Cafwyd mewnbwn gwerthfawr oddi wrth y bardd coronog John Roderick Rees, yr artist enwog Aneurin Jones a’r cerflunydd John Clinch wrth iddynt gyfoethogi ac ymestyn sgiliau’r plant.

Cyflwynwyd y gwaith yn anrheg i’r gymuned mewn seremoni arbennig ar Orffennaf 9fed 1993. Dadorchuddiwyd y cerfluniau gan Mr Bernard Jones, Prif Weithredwr Cyngor Cwricwlwm Cymru. Roedd y babell yn orlawn o rieni, gwestai, aelodau’r gymuned a thu hwnt.

 (c) Cyngor Llaneitho Council

Mynegodd John Roderick Rees yn ei bryddest ‘Llygaid’ fod y gymuned wedi goroesi, dymuniad y plant yw y bydd y cerfluniau yma yn aros ac y byddant yn gofnod celfyddydol parhaus o hanes ardal wledig ucheldir Ceredigion.

Oni welwch chi ddyrnaid ohonom
Yn cyndynnu glynu wrth yr erwau hyn,
Yn gelodaidd glymu wrth yr erwau hyn
Rydym ni yma o hyd.

Ann Davies
Llun: Cerfluniau Pen-uwch: Elin Morse/Eirian Jones
Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration